Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Medi 2017
Amser:
12.00 -
16.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4347
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Maria Battle, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher Dave Rees John Herniman |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)
|
1.1 Cymerodd Aelodau'r Pwyllgor ran mewn hyfforddiant fel rhan o'u paratoi ar gyfer y gwaith sydd i ddod ar graffu ar gyfrifon.
2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Archwiliad o Reoliadau Contractio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda RKC Associates Ltd a'i Berchennog, a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf 2017.
3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited, a gyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf.
3.2 Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhoi gwybod iddo am yr Adroddiad.
4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 31 Awst 2017.
4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn.
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
5.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
6.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6.2 Cytunodd y Cadeirydd i anfon copi o ymateb Llywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
6.3 Mewn perthynas ag Eitem 6.7, Amseroedd Aros GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig, nododd yr Aelodau y cynnydd a wnaed a chytunwyd i dderbyn diweddariad pellach ar gynnydd yn ystod gwanwyn 2018.
7.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor a nododd y bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r ymateb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
7.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y gwanwyn 2018 ond yn y cyfamser, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau a godwyd.
8.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a gynhwyswyd yn adroddiad y Pwyllgor a nododd yr ymateb cadarnhaol gan y sector tai.
8.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y gwanwyn a Thachwedd 2018.
9.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod ymateb manwl i'w lythyr ar 26 Mehefin wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi sylwadau arno.
9.2 Oherwydd pwysau amser, dywedodd nad oedd digon o amser i ystyried a thrafod yr ymatebion yn fanwl.
9.3 Cytunodd yr aelodau i drafod yr ohebiaeth hon yn ystod y cyfarfod ar 2 Hydref 2017.
10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflog uwch reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru 2015-16.
10.2 Gofynnodd yr aelodau i'r Cadeirydd ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn diolch iddynt am yr adroddiad ac yn gofyn bod adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys manylion am sefydliadau addysg bellach a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
11.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Len Richards, Prif Weithredwr a Maria Battle, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog.
12.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gydag Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, cyn iddo adael y sefydliad.
12.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr S4C.
13.1 Derbyniwyd y cynnig.
14.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ddychwelyd i'r mater unwaith y derbyniwyd yr adroddiad gwrth-dwyll.
14.2 Yn y cyfamser, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn tynnu sylw at bryderon y Pwyllgor ac yn ceisio sicrwydd y bydd eu cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â'r holl faterion a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor.
15.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.